Datganiad Grant Amddifadedd 2026-2027
Dyrennir y Grant Amddifadedd Disgyblion i ysgolion â disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac y gwyddys eu bod ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (e-FSM) a disgyblion sydd wedi derbyn gofal yn barhaus am fwy na chwe mis (LAC).
Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim neu sy’n LAC.
Fel ysgol rydym wedi cytuno ar y tri cham a ganlyn: 1. nodi’r grŵp targed o ddisgyblion, ei nodweddion a’i anghenion 2. cynllunio ymyraethau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau 3. monitro a gwerthuso effaith adnoddau
Yn 2026-27 rhoddwyd i Ysgol Casmael ddyraniad Grant Amddifadedd disgyblion o £11,500.
Yn Ysgol Casmael mae gennym gynllun cynhwysfawr, sydd wedi’i gytuno a’i fonitro gan yr Awdurdod Lleol i hyrwyddo cynnydd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn.
Rydym wedi defnyddio’r cyllid sydd ar gael i gyflogi staff sydd yn gweithredu rhaglenni ymyrraeth benodol a fydd yn codi safonau cyrhaeddiad y disgyblion.
Mae’r rhaglenni ymyrraeth yma yn cynnwys:
- Cyflogi aelod o staff fel Swyddog i Ymgysylltu a’n teuluoedd
- Cyflogi Cynorthwyydd i redeg grwpiau ymyrraeth
- Cefnogaeth gyda gwisg ysgol
- Cefnogaeth gyda tripiau ysgol/tripiau preswyl
- Cefnogaeth ELSA – rhaglen cefnogaeth llythrennedd emosiynol, rydym yn hyfforddi aelod o staff ychwanegol i gefnogi gyda’r rhaglenni yma
- Cefnogaeth gyda phresenoldeb
Pupil Deprivation Grant Statement 2026-2027
The Pupil Deprivation Grant (PDG) is allocated to schools with pupils who come from low-income families and are currently known to be eligible for free school meals (e-FSM) and pupils who have been looked after continuously for more than six months (LAC). Schools are expected to make the best use of this funding to implement sustainable strategies that will quickly bring about changes for learners eligible for free school meals or who are LAC.
As a school we have agreed the following three steps: 1. to identify the target group of pupils, its characteristics and needs 2. to plan interventions which make the most effective use of resources 3. to monitor and evaluate the impact of resources
In 2026-27 Ysgol Casmael was provided with a PDG allocation of £11,500.
At Ysgol Casmael we have a comprehensive plan, agreed and monitored by the Local Authority to promote progress and remove barriers to learning for students eligible for this funding.
We have used the funding available to employ staff that can provide intervention and support programmes that will raise the standards of attainment of the pupils. These support programmes include:
- Employing an additional member of staff as a Family Engagement Officer
- Employing an LSA to run intervention programmes
- Providing training for an additional ELSA to support with the running of Emotional Literacy support programmes
- Providing attendance support
- School uniform support
- Support with school trips/Residential Visits